|
Nid
fi oedd y gyrrwr; ffrind/perthynas sydd yn byw dramor
oedd yn gyrru?
Os yw’r sawl a enwyd fel gyrrwr y cerbyd ar
adeg y trosedd honedig yn byw dramor, byddwn yn gofyn am
brawf o yswiriant a/neu fanylion hedfan.
|
|
Nid
fi oedd yn gyrru, ac ni wn pwy oedd yn gyrru, beth
sydd yn rhaid i mi ei wneud nesaf?
Mae’r gyfraith yn dweud ei bod yn ddyletswydd
ar y sawl oedd yn gyfrifol am y cerbyd ar adeg y trosedd
i enwi’r gyrrwr. Un ai fel y gyrrwr neu’r sawl
a enwyd, mae arnoch ddyletswydd i ddweud pwy oedd yn gyrru’r
cerbyd dan sylw. Bydd methu â darparu’r wybodaeth
yn arwain at wysiad llys i’r perchennog, y gyrrwr
a enwyd neu’r cwmni.
|
|
Fydd
fy Hawliau Dynol yn cael eu torri os wyf yn ymateb
i’r Hysbysiad hwn?
Na. Mae’n orfodol rhoi’r wybodaeth yn ôl
y gofyn. Bydd peidio â gwneud hynny yn arwain at
erlyniad.
|
|
Beth
fydd yn digwydd os anwybyddaf yr Hysbysiad?
Bwriad cynnig hysbysiad cosb benodol yw rhoi cyfle
i yrrwr ddatrys y mater yn syml ac yn gyflym heb orfod
mynd i’r llys. Bydd peidio ag ymateb yn arwain at
basio eich achos i’r llysoedd am fethu â chydymffurfio.
Yng Ngogledd Cymru cyfartaledd y ddirwy a roddir mewn llys
am y trosedd hwn yw £148 a 4 pwynt cosb.
|
|
Beth
os penderfynaf fynd i’r llys?
Mae gennych hawl i herio’r trosedd mewn llys.
Yr ynadon wedyn fydd yn penderfynu ynghylch dyfarniad unrhyw
ddirwy neu bwyntiau cosb .Mae gan y llysoedd hawl i gynyddu
unrhyw ddirwy neu bwyntiau cosb fel y gwelant yn briodol,
yn ychwanegol at godi am gostau’r llys os cewch eich
euogfarnu. Nid oes a wnelo’r Heddlu ddim â’r
canlyniad terfynol.
|
|
Ydy’r
Heddlu o ddifrif yn mynd i wastraffu amser y llys os
anwybyddaf y ddirwy hon?
Mae’n ddyletswydd ar yr Heddlu i ddwyn troseddau
honedig gerbron y llys.
|
|
Fydd
angen i mi gyflwyno DWY RAN fy Nhrwydded Yrru?
Os oes gennych drwydded wrthrannol YN OGYSTAL Â thrwydded
Cerdynllun yna rhaid cyflwyno’r DDWY ran gyda’r
taliad. Yn y DG mae’r ddwy ran yn cyfrif fel trwydded
gyfan.
|
|
Ydy
hi’n bosibl talu fesul tipyn?
Nid yw’r cyfleuster hwn ar gael; dim ond y llys
all drefnu hyn. Mae modd talu gyda cherdyn.
|
|
Nid
oedd unrhyw arwyddion yn dangos cyfyngiad cyflymder
felly sut y gwyddwn i ba gyflymder oedd yn dderbyniol?
Yn yr achos hwn, yr esboniad mwyaf tebygol yw eich
bod mewn parth 30mya. Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn
nodi’n glir mai 30mya yw’r cyfyngiad cyflymder
mewn ardal adeiledig gyda goleuadau ffordd oni bai bod
arwydd yn nodi fel arall. Yr awdurdod lleol sy’n
gyfrifol am osod arwyddion ar y ffordd fawr ond, yn ôl
y gyfraith, ni all godi unrhyw arwyddion ychwanegol i ategu’r
cyfyngiad cyflymder mewn parth 30mya.
|
|
Nid
oeddwn yn ymwybodol o’r cyfyngiad cyflymder.
Mae’n rhaid i bob gyrrwr yrru o fewn y terfynau
cyfreithiol ac o fewn y cyfyngiadau a osodwyd. Uchafswm
cyflymder, nid targed, yw’r cyfyngiad a osodir.
|
|
Pwy
sy’n penderfynu ym mhle y dylid gorfodi
cyfreithiau cyflymder?
Mae nifer o gyrff yn penderfynu hyn; yr heddlu, awdurdodau
iechyd, cynghorau sir neu hyd yn oed drigolion trefi/pentrefi
trwy gyfrwng cynrychiolydd lleol. Mae bob safle wedi’i
leoli mewn un o’r lleoedd canlynol:
- Ar ffordd Siwrne Saff sydd â hanes o oryrru
neu wrthdrawiadau
- Y tu allan i ysgol.
- Lle mae gwaith dros dro ar ffyrdd deuol.
|
|
Ydy’r
safleoedd yn gyfreithlon?
Mae pob safle yn cydymffurfio â deddfwriaeth
y llywodraeth a lleolir cerbydau Siwrne Saff ar ffyrdd
sydd yn cael eu hysbysebu ymlaen llaw.
|
|
A
gaf fi gopi o’r dystysgrif graddnodi?
Na, mae pob gwiriad yn gywir ac yn cwrdd â’r safonau angenrheidiol.
Mae’r holl offer camera yn graddnodi ei hun ac nid yw’n gweithio
os nad yw’r gwiriadau hunan-raddnodi yn gywir. Pwrpas y dystysgrif yw ategu
achos yr erlyniad os ydych yn herio’r dystiolaeth ac yn mynd gerbron llys. NI fyddwch
yn gallu newid eich meddwl a gofyn am gosb benodol bryd hynny.
|
|
Nid
yw’r manylion ar fy nhrwydded yrru yn gywir,
mae fy enw a/neu fy nghyfeiriad wedi newid.
Dylech wneud cais am drwydded newydd AR ÔL i chi ddelio â’r
Hysbysiad hwn.
|
|
Mae
gennyf drwydded yrru lân, fydd hyn yn cael
ei ystyried?
Na, ni ystyrir hanes gyrru blaenorol/trwydded lân.
|
|
Am
ba hyd fydd y pwyntiau yn aros ar fy nhrwydded
yrru?
Mae pwyntiau cosb yn ddilys am gyfnod o dair blynedd, ond ni ellir eu
tynnu oddi ar eich trwydded yrru hyd nes y bydd pedair blynedd wedi mynd heibio.
Ar ôl i’r cyfnod o bedair blynedd ddod i ben, gallwch wneud cais
i’r DVLA am drwydded newydd.
|
|
Fyddai’n
bosibl imi gael dirwy uwch heb bwyntiau cosb?
Na. Os rhoddir cosb benodol i chi, y llywodraeth sy’n
pennu’r ddirwy ac felly nid yw’n agored i drafodaeth.
Y gosb a bennwyd gan y llywodraeth yw £60.00 a thri
phwynt cosb.
|
|
A
gaf i apelio yn erbyn yr Hysbysiad hwn?
Cewch, ond mae’n RHAID i chi wneud hynny’n
ysgrifenedig ac nid oes modd gwneud apêl dros y ffôn.
Rhaid cofio y bydd unrhyw benderfyniad a wneir yn derfynol,
ac y bydd yn rhaid i unrhyw apeliadau pellach fynd gerbron
llys. PEIDIWCH â chyflwyno eich trwydded yrru
a’ch taliad hyd nes y byddwch wedi cael ymateb i’ch
llythyr. Ni all y Swyddfa Docynnau Ganolog ystyried apêl
ar ôl i yrrwr/geidwad cofrestredig gydymffurfio â Hysbysiad.
|
|
Codi
arian sydd wrth wraidd hyn i gyd.
Mae’r arian a godir o ddirwyon yn cael ei ddefnyddio
i ehangu ymgyrch Siwrne Saff i gynnwys ffyrdd eraill yng
Ngogledd Cymru. NI ELLIR ei ddefnyddio i wneud unrhyw beth
arall. Mae ffyrdd yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw ac arwyddion
clir yn cael eu codi arnynt. Mae faniau Siwrne Saff a’r
camerâu sefydlog yn weladwy iawn. Ar hyd a lled y
DU mae’r partneriaethau hyn wedi dangos fod gosod
camerâu mewn lleoliadau penodol yn peri gostyngiad
sylweddol yn y nifer o bobl sy’n cael eu lladd a’u
hanafu ar y ffyrdd.
|
| |
|