Awgrymwch y wefan hon i ffrind


7 Ionawr 2009

SIWRNE SAFF


Beth yw Siwrne Saff?

Lawnsiwyd ymgyrch Siwrne Saff gan Bartneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd yn Hydref 2001. Nôd yr ymgyrch yw gwneud ffyrdd Gogledd Cymru yn saffach drwy annog unigolion i gadw at y cyfyngiadau cyflymder, ac felly’n gostwng cyflymder, lleihau gwrthdrawiadau ac felly’n gostwng y nifer sy’n cael eu lladd a’u hanafu.

Pwy sy’n cymeryd rhan?
Mae partneriaeth Siwrne Saff yn cynnwys 6 awdurdod lleol Gogledd Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Pwyllgor Llysoedd Ynadon Gogledd Cymru, Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.

Pa ffyrdd sy’n cael eu targedu?
Bydd pob ffordd sy’n rhan o’r ymgyrch yn cael ei ddadansoddi o flaen llaw a’i gydnabod fel ffordd uchel ei risg h.y. lonydd sydd â nifer sylweddol o wrthdrawiadau ac anafiadau a ble mae ‘na broblem gor-yrru. Bydd camerâu diogelwch sefydlog neu symudol yn monitro’r ffyrdd hyn. Mae 53 ffordd yn cael eu targedu gan Bartneriaeth Siwrne Saff ar hyn o bryd. Bydd pob un ffordd yn cael ei hysbysebu a’i harwyddo; bydd y faniau a safleoedd camera sefydlog yn weladwy iawn a bydd lleoliadau y camerâu symudol yn cael eu cyhoeddi’n wythnosol drwy’r cyfryngau lleol a’r safwe hwn yn yr adran amserlen.

Yn olaf, nid ymgyrch codi arian yw hwn, ond ymgyrch achub bywydau. Ni fydd gyrwyr gofalus sy’n cadw at y cyfyngiadau cyflymder yn ariannu’r cynllun; ni fydd gyrwyr sy’n tramgwyddo yn cael eu stopio; hysbysir hwy drwy’r post. Bydd arian a dderbynnir fel dirwyon yn cael ei ddefnyddio i ariannu camerâu ychwanegol; ni fydd unrhyw aelod o’r bartneriaeth yn gallu defnyddio’r arian i unrhyw bwrpas arall oni bai am ymgyrch Siwrne Saff.

 


© Hawlfraint Siwrne Saff 2001 - 2009
llun top: size-isnt-everything.co.uk