Awgrymwch y wefan hon i ffrind


6 Ionawr 2009

FFEITHIAU


O fis Ebrill 2003 ymlaen, bydd yr ardaloedd canlynol yn cymryd rhan yn yr Ymgyrch Camerâu Diogelwch Cenedlaethol i geisio ddylanwadu ar ymddygiad gyrwyr. Yr ardaloedd yw: Avon a Somerset, Bedfordshire, Swydd Caergrawnt, Sir Gaer, Cleveland, Swydd Derby, Dyfnaint a Cernyw, Dorset, Essex, Fife, Hampshire, Swydd Gaint a Medway, Swydd Gaerhirfryn, Swydd Gaerlyr, Swydd Lincoln, Llundain, Norfolk, Gogledd Cymru, Swydd Nottingham, Swydd Northampton, De Cymru (yn cynnwys Dyfed Powys a Gwent), De Swydd Efrog, Swydd Stafford, Strathclyde, Thames Valley, Swydd Warwick, Gorllewin Swydd Efrog a Wiltshire


Ffugiaeth
Mae'r cerbydau gorfodaeth yn cuddio y tu ôl i wrychoedd er mwyn dal modurwyr!
Ffaith
Mae'r cerbydau gorfodaeth symudol arbennig yn las neu'n wyn ac wedi eu marcio'n glir â logo Siwrne Saff (croes goch, cylch gwyrdd a draig) ac arwyddion camerâu diogelwch. Mae'r faniau'n parcio mewn mannau agored gan ddangos parch i ddefnyddwyr ffordd eraill a chaniateir i'r faniau mewn rhai lleoliadau barcio ar bafin/ ffyrdd clir er mwyn ymgymryd â'u dyletswyddau.

Ffugiaeth
Mae'r heddlu yn gwneud arian allan o'r prosiect!
Ffaith
NID yw’r heddlu yn gwneud arian o’r prosiect. Mae’r arian a dderbynir mewn dirwyon yn cael ei ail-fuddsoddi mewn camerâu, swyddogion, offer, addysg a gweinyddiaeth.

Ffugiaeth
Rydych yn mynd i'r un lleoliadau bob tro i ymgymryd â gorfodaeth symudol!
Ffaith
Gyda ymgyrch Siwrne Saff, mae 85% o’r gorfodaeth symudol sy’n cael ei ymgymryd yng Ngogledd Cymru yn canolbwyntio ar y ffyrdd sydd wedi eu targedu. Mae gan y ffyrdd hyn nifer uchel o bobl sydd wedi eu lladd neu wedi anafu’n ddifrifol a’r nod yw lleihau y nifer sy’n cael eu hanafu. Bydd 15% o’r gorfodaeth symudol yn cael ei wneud y tu allan i adeiladau addysgol yn ystod oriau ysgol pan mae problem gor-yrru wedi ei gydnabod, ar ffyrdd ddeuol ble mae gwaith ffordd â cyfyngiadau cyflymder dros-dro ac ar ffyrdd tymhorol sy’n cael eu targedu.

Ffugiaeth
Ni fydd y camera symudol yn fy ngweld i os nad ydw i'n gallu ei weld o!
Ffaith
Mae'r dechnoleg a ddefnyddir mewn camerâu symudol yn ddibynadwy iawn dros 500 metr. Gall dynnu llun gyrwyr sy'n torri'r cyfyngiad cyflymder naill ai wrth nesáu at y safle neu symud ymaith oddi wrtho. NID eithrir gyrwyr beiciau modur.

Ffugiaeth
Rydych yn gwastraffu adnoddau gwerthfawr yr heddlu wrth ganolbwyntio ar or-yrwyr yn hytrach nag ar droseddwyr!
Ffaith
Mae’r adnoddau hyn yn ychwanegol, sydd ddim yn efeithio ar dyletswyddau plismona eraill. Mae pob heddwas sy’n rhan o’r prosiect yn cael ei dalu gan y rhai sy’n gor-yrru ac felly’n rhyddhau arian er mwyn talu am heddweision ychwanegol i Heddlu Gogledd Cymru. Mae torri’r cyfyngiadau cyflymder yn erbyn y gyfraith. Dylai gyrwyr fod yn ymwybodol, os y byddwch yn gor-yrru, mae ‘na fwy o risg o gael eich darganfod.

Ffugiaeth
Petawn i’n ffonio’r Swyddfa Tocynnau Canolog neu petawn i’n siarad â’r Swyddog Gorfodaeth, mae’n bosib eu perswadio i beidio rhoi tocyn i mi.
Ffaith
Cynlluniwyd y broses cosb sefydlog i leihau costau ac amser. Pe baech chi'n dewis lliniaru'r mater, bydd eich achos yn mynd i'r llys. Gallai'r gosb gynyddu fel y barno'r barnwr yn ddoeth. NI fydd y Swyddog Gorfodaeth mewn sefyllfa i ddiddymu unrhyw luniau a dynnwyd ar ddyletswydd ar y diwrnod hwnnw.

Ffugiaeth
Mae hwn yn troseddu yn erbyn fy Hawliau Dynol.
Ffaith
Daeth y Ddeddf Hawliau Dynol i fodolaeth ym mis Hydref 2000. Ym mis Rhagfyr 2000, fe gadarnhawyd penderfyniad gan y Cyfrin Gyngor ar achos yn yr Alban, sy'n nodi'n eglur NA thorrir y Ddeddf Hawliau Dynol o dan y broses hon.





© Hawlfraint Siwrne Saff 2001 - 2009
llun top: size-isnt-everything.co.uk